Swansea needs councillors who vote against cuts! No to austerity - vote Trade Unionist and Socialist Coalition (TUSC).

Don’t waste the opportunity to send a clear ‘no more cuts’ message by voting for Ronnie Job, TUSC: the only no-cuts, socialist candidate in Swansea West in the 2015 General Election!

Wednesday 4 April 2012

Datganiad i’r Wasg: her etholiadol TUSC Abertawe


Mae’r Cynghrair Undebwyr Llafur a Sosialwyr (TUSC) yn sefyll yn etholiadau Cyngor Abertawe ar 3 Mai. Rydyn ni’n wrthwynebu pob toriad!
Her TUSC yn etholiadau Cyngor Abertawe

Mae Cynghrair Undebwyr Lllafur a Sosialwyr (TUSC) yn sefyll ymgeiswyr yn Abertawe yn yr etholiadau Cyngor ar 3 Mai ar raglan o wrthwynebu pob toriad, pwy bynnag sy’n eu cyflawni. Mae’n hymgeiswyr yn addo bod yn llais dros undebaeth llafur a sosialaeth yn yr etholiadau fel yr unig blaid sy’n galw ar ein gwleidyddion i wrthod gwneud unrhyw toriad.

Mae llawer o undebwyr llafur a phobl dosbarth gweithiol yn teimlo bod bron dim gwahaniaeth rhwng y pleidiau mawr gan eu bod nhw i gyd yn cefnogi  torri gwasanaethau, preifateiddio, ymddiswyddo gweithwyr, ac ymosod ar ein amodau gwaith. Mae’n nhw’n ymddwyn mwy a mwy fel wahanol adennydd o’r un blaid slebogaidd, wrth undebol a chefnogol o gyfalafiaeth. Gwnaeth 13 blynedd o lywodraeth Lafur (with ohonynt gyda mwyafrif o ddros 100) ddim niwed i ddeddfau wrth undebol Thatcher, gan ein gadael ni gyda beth maw sawl sylwebydd wedi disgrifio fel y cyfreithiau mwyaf rhwystrol yn erbyn undebau llafur yn y Gorllewin.

Mae rhai yn ceisio’n perswadio bod y Blaid Lafur, yma yng Nghymru, yn wahanol er ei bod wedi ei hethol ar yr un raglen. Felly sut ydyn nhw’n esbonio’r ffaith fod dim ond dau Aelod Seneddol o Gymru oedd yn barod i herio’u plaid a phleidleisio dros gynnig John McDonnell yn San Steffan i ailsefydlu’r mynegai chwyddiant dros bensiynau cyhoeddus i RPI yn hytrach na CPI?

Dylen ni ddim anghofio chwaith mai cynghorau Llafur dechreuodd y bolisi o fygwth ymddiswyddo gweithwyr fel ffordd o ddinistrio amodau gwaith cenedlaethol gweithwyr Cyngor, bolisi mae cynghorau ledled y Deyrnas Unedig yn cyflawni trwy’r Rhybuddion 188 drwg-enwog.

Mae’n hyngeiswyr yn cynnwys undebwyr llafur sydd wedi brwydro yn yr un ffordd yn erbyn y lywodraeth Con Dem bresennol a’r lywodraeth Lafur gynt.

“Fel aelod o’r undeb UNSAIN gyda pensiwn lywodraeth leol, rydw wedi mynd ar streic ddwywaith i amdddifyn fy mhensiwn, unwaith o dan y lywodraeth Con Dem bresennol ac unwaith o dan y lywodraeth Lafur gynt. Teimlodd yr un fat hi ddweud y gwir. Mae angen llais wleidyddol arnon ni bydd yn cynrychioli undebwyr llafur sy’n brwydro i amddiffyn gwasanaethau, swyddi ac amodau a thelerau gwaith.”
Ronnie Job, ymgeisydd TUSC dros ward Sgeti

Mae’r lywodraeth Con-Dem yn benderfynol i ddinistrio Remploy sy’n rhoi gwaith gyda chefnogaeth i weithwyr anabl. Mae 36 allan o 54 ffatri Remploy wedi eu clustnodi i gau yn yr haf, gan ymddiswyddo dros 1,700 o weithwyr anabl. Mae gweithwyr Remploy yn brwydro yn erbyn y toriadau creulon, gan ddefnyddio’r profiad o’r brwydr yn 2008 yn erbyn rhaglen y lywodraeth Lafur i gau ffatrïoedd. Mae Les Woodward, yr ymgeisydd TUSC dros Tregwyr, ac yn cynullydd Consortiwm Undeb Llafur Remploy, yn dweud does dim dewis gan undebwyr llafur Remploy ond wrthdystio.
“Gyda swyddi mewn peryg, budd-daliadau yn cael eu cwtogi, a dim posibilrwydd o gael gwaith, does dim dewis i weithwyr Remploy ond i frwydro i amddiffyn eu swyddi a’u ffatrïoedd ac mae’n brwydr bydden ni’n cymryd yn syth at y lywodraeth. Nid yw ffatrïoedd Remploy ar werth nac am gau.”
Les Woodward, ymgeisydd TUSC candidate dros ward Tregwyr

Mae trechiad syfrdanol y Blaid Lafur yn Bradford West yn dangos bod pobl dosbarth gweithiol yn daer am ddewis arall i gonsensws y pleisiau mawr bod y “toriadau yn anghenrheidiol”. Mae unigolion cyfoethog a’r corforraethau mawr yn osgoi talu dros £120bn y flwyddyn felly pam ddyle pobl dosbarth gweithiol talu am argyfwng dydyn ni ddim yn gyfrifol am greu? Dydy toriadau ddim yn anghenrheidiol nac yn anochel; beth bynnag yw canllyniad yr etholiadau bydd cefnogwyr TUSC yn Abertawe yn ddal i adeiladu mudiad yn erbyn yr holl toriadau, gan ddod ag undebwyr llafur a’n cymunedau lleol at ei gilydd i drechu’r toriadau a lywodraeth y cyfoethog dros y cyfoethog.

Pleidleisiwch TUSC ar 3 Mai!

I gael rhagor o wybodaeth:

Cynrychiolydd etholiadol:Alec Thraves 01792 476246            socialistpartywales@btinternet.com
Blog etholiadol TUSC Abertawe:http://tuscswansea.blogspot.co.uk

No comments:

Post a Comment

Comments welcomed!